Caeau Ennyd
Pen Cefn Pella
Ffordd Pen y Cefn
Tanygrisiau
Blaenau Ffestiniog
LL41 3SL
Rocky landscape with flora

Ennyd

Yma mi fagwn dealltwriaeth, amynedd a gofalgarwch. Yma cawn lonnyddwch.

||||

Gweithdai Maeth Natur

— 1 —

huglebed

Ymunwch a ni ar ein gweithdai garddio gwyllt.

Mae llawer o hwyl i'w gael, yn ogystal a dipyn o waith ymarferol (os dach chi isio fo)....dyma'n wir ein 'campfa gwyrdd'. Ar hyn o bryd dan ni wrthi'n adeiladu 'huglebeds' ac yn clirio mieri i roi cyfle i'r planhigion sydd yn cuddio odditanynt ffynu. Mae ty gwydr bron a'i ddarfod a buan iawn y byddwn hefyd yn edrych ar gymryd torriadau planhigion er mwyn eu tyfu'n cysgod cysurus y ty gwydr dros y Gaeaf.

I'r rhai di-Gymraeg, neu sy'n dysgu, dan ni'n cynnig chwarter awr fach cyn y sesiwn i edrych ar batrymau neu eirfa perthnasol i sesiwn y dydd. Fel arall mi fyddwn i gyd dw i'n siwr yn cael y cyfle i ddysgu mwy am blanhigion gwyllt a'u defnydd, wrth i ni rannu gwybodaeth a'n gilydd o dan arweinaid Catrin Roberts. Mae croeso mawr i chi ddod i helpu, dysgu, ymlacio mewn encil fach ddistaw, cael sgwrs a mynd ati, pa beth bynnag, mae croeso i chi.

Rhaid gyrru neges at Catrin Roberts i gadw'ch lle, neu am unrhyw wybodaeth pellach :

Ffôn: 07900615380

Dyddiadau ac amseroedd:

Dyddiau Llun: Medi'r 14ydd a 28ain: 9.30y.b.

Dydd Llun Hydref y 5ed: 9.30y.b.

Caeau Ennyd
Pen Cefn Pella
Ffordd Pen y Cefn
Tanygrisiau
Blaenau Ffestiniog
LL41 3SL
wild gardening
dreamy flower