||||
Daw dim i'r Ennyd yn gyflawn, mae popeth ar ei drywydd ei hunain, yn symyd,rhyw drawsnewidiad, ac yn disgyn i fewn i'w newydd wedd. Mae'r tir ei hun yn ein hatgoffa, yn ein haddysgu nad oes dim yn gyson, dim ond newid. Daw'r llwybrau drwy eu cerdded, y sglodion coed arnynt yn faeth i'r tir cyn fod yn fan plannu eto pen ychydig ac mi droediwn ar newydd hynt.
5 Ebrill, 2025
—Magledigaeth
8 Ebrill, 2025
—glas
Yma mi fagwn dealltwriaeth, amynedd a gofalgarwch. Yma cawn lonnyddwch. Yn y Ennyd, digwyddir alchaemy pan y gwnaf fy eli, a phan fyddaf yn cynnal gweithdai i ddysgu a rhannu gydag eraill y wyrth o weithion reddfol, o wrando ar ein planhigion, elfen o arbrofi, o arafu, o fod.
8 Ebrill, 2025
—rhwyll
8 Ebrill, 2025
—Manawydan
Yma hefyd mae'r iaith yn plethu i fewn ac allan o bobpeth,fel y gwynt rhwng y dail, fesul dipyn wrth chwarae gyda'r pridd, wrth gwneud dim, heb angen perffeithrwydd. Mae yma'n le o rannu, lle bo' sgiliau'n rhywbeth sydd yn cael eu rhannu'n hytrach na'u dal yn gudd oddiwrth eraill. Yn cael eu pasio ymlaen o un i'r llall fel y traddodiad Cymreig o basio straeon ymlaen. Mi eith syniad a sgwrs, yn weithdy neu'n weithgaredd, gyda'r tir yn rhoi rhywbeth i ni pob tro, a ninnau mewn gobaith ein bod yn rhoi'n ol hefyd. ¶ Does dim gwir cychwyn na diwedd am fod yma, does dim anelu am berffeithrywdd, dim ond am gyfnod o lonyddwch, o ddianc, o rannu ac o ddatblygu heb sylwi…o'r tir, osgiliau, o'n hiaith neu o'n hunain.
8 Ebrill, 2025
—manylion o'r tir